Croeso i Restrau Gwirio AIM

Mae Rhestrau Gwirio AIM yn darparu fframwaith i hysbysu a chefnogi penderfyniadau proffesiynol, gan na fydd angen cyfeirio pob ymddygiad sydd ag elfen rywiol at asiantaeth arall neu asesiad AIM3 neu AIM o dan 12 oed. Mae pedair Rhestr Wirio AIM i adlewyrchu gwahanol lefelau o ddatblygiad oherwydd oedran neu gallu.

Gyda chaniatâd caredig yr awdur, mae Rhestrau Gwirio AIM yn ymgorffori Continwwm Ymddygiad Rhywiol Simon Hackett (2010), gyda cholofnau dan y pennawd Normal, Amhriodol, Problemus a Camdriniol/Treisgar. Mae pob un o’r pedair Rhestr Wirio AIM yn seiliedig ar ymchwil ac ymarfer ac mae 8 cwestiwn allweddol yn rhoi trosolwg cyd-destunol o’r ymddygiad rhywiol i roi persbectif cytbwys.

Er mwyn cadw’r Rhestrau Gwirio AIM yn gyfoes gyda gwybodaeth ymchwil ac ymarfer newydd rydym yn eu diweddaru o bryd i’w gilydd ac felly, pan fyddwch am eu defnyddio, mae’n ddoeth cael mynediad iddynt o’r wefan i sicrhau bod gennych y fersiwn diweddaraf.

Sut i Ddefnyddio’r Rhestrau Gwirio

Mae’n bwysig iawn eich bod yn deall sut i ddefnyddio’r rhestrau gwirio cyn eu rhoi ar waith, rydym wedi darparu canllawiau ysgrifenedig a hefyd canllaw fideo. Sicrhewch eich bod yn darllen trwy ein “Canllawiau Sut i Ddefnyddio” isod. Mae modd eu lawr lwytho trwy glicio ar y 3 dot ar y ddewislen o dan y ddogfen ac yna gwyliwch ein canllaw fideo sut i ddefnyddio.

Pan fyddwch wedi darllen a deall y canllawiau sut i wneud uchod a’ch bod yn barod i gael mynediad i’r Rhestrau Gwirio AIM, dewiswch y rhestr wirio benodol isod

Cofiwch ddefnyddio’r wefan bob amser i gael mynediad at y rhestrau wirio, fel y gallwch fod yn sicr eich bod yn defnyddio y fersiwn gyfredol.

Os gwelwch yn dda osgowch eu storio’n ddigidol gan eich bod mewn perygl o ddefnyddio hen gopïau. Osgowch rannu copïau am yr un rheswm. Gall eich cydweithwyr gael mynediad iddynt am ddim trwy ein gwefan.

Croeso i Restr Wirio Glasoed Prosiect AIM

Croeso i Restr Wirio Plant o dan 12 Oed Prosiect AIM

Croeso i Restr Wirio Glasoed gydag Anableddau Dysgu Prosiect AIM

Croeso i Restr Wirio Plant o dan 12 oed gydag Anableddau Dysgu Prosiect AIM

Contact/Feedback Form

Follow us on Twitter
Contact Us

drop us an email…
admin@aimproject.org.uk

give us a call…
0161 383 0100

Compliments, comments and complaints policy

We welcome feedback be it a compliment, comment or a complaint, if you wish to contact us about any of these, then please see our policy here