Telerau ac Amodau ar gyfer defnyddio Rhestrau Gwirio AIM

Hawlfraint

Mae hawlfraint Rhestrau Gwirio AIM yn eiddo i Carol Carson a The AIM Project 2021. Mae hawl foesol Carol Carson i gael ei hadnabod fel awdur y gwaith hwn wedi ei haeru ganddi yn unol â Deddf Hawlfraint Dyluniadau a Phatentau 1988

Cedwir pob hawl. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw un o’r Rhestrau Gwirio AIM mewn unrhyw ffurf berthnasol (gan gynnwys ei lungopïo neu ei storio mewn unrhyw gyfrwng trwy gyfrwng electronig a boed yn dros dro neu’n achlysurol i ryw ddefnydd arall o’r cyhoeddiad hwn ai peidio) na’u rhannu â phartïon eraill heb ganiatâd ysgrifenedig y perchnogion hawlfraint neu yn unol â darpariaethau Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 neu o dan delerau trwydded a roddwyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint Cyf, Saffron House, 6-10 Kirby Street, Llundain EC1N 8TS

Rhybudd: Gall cyflawni gweithred anawdurdodedig mewn perthynas â gwaith hawlfraint arwain at hawliad sifil am iawndal ac erlyniad troseddol.

Telerau ac Amodau

Caniatadau

Mae’r Rhestrau Gwirio AIM a’r ffurflenni canlyniadau Rhestrau Gwirio AIM ar gael i’w lawrlwytho neu eu hargraffu ar gyfer defnydd ymarferol

Mae canllaw AIM ar Sut i ddefnyddio’r Rhestrau Gwirio ar gael i’w lawrlwytho neu ei argraffu ar gyfer defnydd ymarferol

Cyfyngiadau

Gellir gweld fideo AIM ar Sut i Ddefnyddio’r Canllaw Rhestrau Gwirio ar wefan AIM (www.aimproject.org.uk) a gellir ei gyrchu gyda enw defnyddiwr a’r cyfrinair a grëwyd gennych pan wnaethoch gofrestru i fod yn aelod o wefan AIM.

Er mwyn cadw’r Rhestrau Gwirio AIM yn gyfoes gyda gwybodaeth ymchwil ac ymarfer newydd rydym yn eu diweddaru o bryd i’w gilydd ac felly, pan fyddwch am eu defnyddio, mae’n ddoeth cael mynediad iddynt o’r wefan i sicrhau bod gennych y fersiwn diweddaraf.

Cliciwch ar y ddolen isod i gytuno i’r Telerau ac Amodau a chael mynediad i’r rhestrau gwirio.

Rwy’n cytuno y byddaf yn parchu’r hawlfraint ac yn cadw at delerau ac amodau’r Drwydded hon

Contact/Feedback Form

Follow us on Twitter
Contact Us

drop us an email…
admin@aimproject.org.uk

give us a call…
0161 383 0100

Compliments, comments and complaints policy

We welcome feedback be it a compliment, comment or a complaint, if you wish to contact us about any of these, then please see our policy here